Ymateb i ymgynghoriad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol i Fil Llywodraeth Leol (Cymru)

 

 

 

Dyma gylch gorchwyl ymchwiliad y Pwyllgor:

 

Ystyried:

 

1.    Egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Cymru) a’r angen am ddeddfwriaeth i:

 

·         alluogi paratoadau i gael eu gwneud ar gyfer rhaglen o uno a diwygio llywodraeth leol;

·         caniatáu i Brif Awdurdodau Lleol uno yn wirfoddol erbyn mis Ebrill 2018;

·         diwygio darpariaeth ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 yn ymwneud â’r Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol a’r arolwg o gynghorwyr ac ymgeiswyr aflwyddiannus i gael eu hethol yn gynghorwyr;

·         diwygio darpariaeth yn Neddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 yn ymwneud ag adolygiadau etholiadol.

 

Mae’r egwyddorion cyffredinol yn ymddangos yn rhai cadarn ac mae’r ddeddfwriaeth yn angenrheidiol.

 

2.    Unrhyw rwystrau posibl rhag rhoi darpariaethau’r Bil ar waith, ac a yw’r Bil yn eu hystyried,

 

Dim sydd heb gael ei ystyried eisoes.

 

3.    A oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r Bil,

 

Un canlyniad anfwriadol caniatáu uno gwirfoddol yw’r posibilrwydd na fydd ceisiadau am uno ad hoc yn cydymffurfio â gweledigaeth genedlaethol gytûn ar gyfer ad-drefnu llywodraeth leol.

 

Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru’n gofyn bod awdurdodau lleol yn cydweithio mewn consortia rhanbarthol i ddarparu gwasanaethau gwella ysgolion trwy ei Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol, er mai’r awdurdodau lleol unigol sydd â chyfrifoldeb statudol o hyd.  Os yw awdurdodau lleol ar draws mwy nag un consortiwm yn uno, gallai hyn greu cymhlethdod di-fudd yn y system.  Mae rôl y Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio’n Rhanbarthol yn cael ei chodi yn y papur ymgynghorol, gan gyfeirio at fodel cenedlaethol ar gyfer cyflwyno gwasanaeth addysg, ond ychydig iawn o ymhelaethu sydd ar hyn. 

 

 

4.    Goblygiadau ariannol y Bil (fel y nodir yn Rhan 2 y Memorandwm Esboniadol),

 

Yn ogystal â’r costau sy’n cael eu nodi yn y Memorandwm Esboniadol, mae’n bosibl y byddai costau tymor byr i’w talu pe bai’r consortia rhanbarthol ar gyfer gwella ysgolion yn cael eu had-drefnu neu eu dileu wrth i brif awdurdodau newydd ddod i’r amlwg. 

 

5.    Priodoldeb y pwerau yn y Bil i Weinidogion Cymru lunio is-ddeddfwriaeth (fel y nodir ym Mhennod 5 Rhan 1 y Memorandwm Esboniadol).

 

Dim sylw.